Mae cadeirydd clwb seiclo o orllewin Cymru a fu yn Ffrainc yn gwylio Geraint Thomas yn y Tour de France wedi sôn am yr “awyrgylch anhygoel” oedd yno ymhlith y Cymry.
Roedd Gwion James, cadeirydd Clwb Seiclo Caron, ymhlith grŵp o seiclwyr o ardal Tregaron ac Aberystwyth a aeth i Ffrainc dros wythnos yn ôl i wylio pedwar cymal o’r Tour de France.
Bu’r grŵp yn dyst i ddwy o fuddugoliaethau cynhara’r seiclwr o Gaerdydd, wedi iddo lwyddo yng Nghymalau 11 yn La Rosiere a Chymal 12 yn Alpe d’Huez.
“Roedd e’n anhygoel,” meddai Gwion James wrth golwg360.
“Roedd e’n beth newydd i ni, ond roedd yr awyrgylch yn anhygoel trwy’r wythnos i gyd, ac roedd lot fawr, fawr o Gymry yna.
“Roeddwn i’n synnu faint o Gymry oedd yna, i ddweud y gwir.
“Roedd mwy o fflagiau Cymru na dim byd dw i’n credu, yn ôl be welon ni’r wythnos yna.”
“Creu diddordeb trwy Gymru gyfan”
Fe gafodd Clwb Seiclo Caron ei sefydlu bum mlynedd yn ôl, a’r nod yw hyrwyddo seiclo fel camp yn Nhregaron a’r cyffiniau.
Yn ôl Gwion James, mae’r clwb wedi datblygu’n “ara’ bach” dros y blynyddoedd, ond mae’n gobeithio y bydd llwyddiant diweddara’ Geraint Thomas yn hybu diddordeb newydd.
“Mae wedi creu diddordeb trwy Gymru gyfan,” meddai.
“Dyw Tregaron ddim yn eithriad, ond dw i’n siŵr y gwelwn ni fwy o bobol ar eu beics yr wythnos hon.
“Rydym ni’n tynnu at 30 o aelodau [yn y clwb] ar hyn o bryd, ac rydym yn gobeithio nawr y bydd llwyddiant Geraint Thomas a’r sylw mae seiclo yn ei gael yn gyffredinol, yn cynyddu’r aelodau.”