“Sir Gâr fydd y ganolfan i seiclo yng Nghymru yn y dyfodol” – dyna yw barn cynghorydd o’r ardal.
Ymhen rhai dyddiau mi fydd ras seiclo y Tour of Britain yn dechrau yn Sir Gâr, gan ddenu 120 o seiclwyr proffesiynol gorau’r byd i’r ardal.
Dyma’r tro cyntaf i’r daith ddod i’r sir, a daw yn sgil ymdrechion gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i hybu’r gamp yn yr ardal.
Ym mis Hydref y llynedd, cafodd felodrom Caerfyrddin ei ailagor – diolch i fuddsoddiad £600,000 – a bellach mae’r gwaith o adeiladu llwybr seiclo wedi dechrau yn Nyffryn Tywi.
Tystiolaeth yw hyn oll, meddai’r Cynghorydd Sir, Alun Lenny, o ymrwymiad Cyngor Sir Gâr i droi’r ardal yn ganolfan i seiclo yng Nghymru.
“Ers blwyddyn neu ddwy nawr, rydym ni wedi bod yn awyddus iawn i helpu seiclo, ac wedi buddsoddi arian sylweddol – cyfanswm o filiynau o bunnau ar lefel Cyngor Sir,” meddai wrth golwg360.
“Yn sicr nawr, mae [llwyddiant diweddar Geraint Thomas yn y Tour de France] yn cyfiawnhau ein buddsoddiad, a siŵr o fod yn hwb anferth i seiclo yn Sir Gaerfyrddin.
“Dw i’n hoffi meddwl mai Sir Gâr fydd y ganolfan i seiclo yng Nghymru yn y dyfodol.”
Geraint Thomas
Daw ei sylwadau yn dilyn buddugoliaeth Geraint Thomas, seiclwr sy’n hanu o Gaerdydd, yng nghystadleuaeth y Tour de France.
Gan fod tad y seiclwr, Howell Thomas, yn dod o Fancyfelin – pentref rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin – mae Alun Lenny yn jocian bod gwreiddiau’r pencampwr yn “ddwfn yn Sir Gaerfyrddin”.
“Mae hawl gyda ni iddo fe, weden i,” meddai. “O’n i’n meddwl wrth iddo agor ei grys, roedd e fel ffarmwr! Roedd greddf cefn gwlad yn y ffordd yr oedd e’n ymddwyn.”
Enwi’r felodrom ar ol Geraint Thomas?
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach yn ystyried enwi’r felodrom ar ol Geraint Thomas. Mi fydd y cyngor yn gofyn am ganiatad y seiclwr i ail-enwi’r felodrom ar ei ol. Mae’r felodrom, a gafodd ei adeiladu yn 1900, yn un o’r rhai hynaf yn y byd.