Mae cyfreithiwr yr actores bornograffig, Stormy Daniels, wedi dweud ei fod bellach yn cynrychioli tair dynes arall sy’n honni iddyn nhw gael perthynas gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Fe gadarnhaodd Michael Avenatti ei fod yn cynrychioli’r menywod wrth gael ei holi mewn fforwm cymunedol yng Ngorllewin Hollywood yng Nghalaffornia, ond doedd e ddim am ddatgelu mwy o wybodaeth amdanyn nhw.

Dywedodd fod y tair wedi cysylltu ag e fisoedd yn ôl, a’i bod yn honni iddyn nhw dderbyn “arian i’w tawelu” ar drothwy’r Etholiad Arlywyddol yn 2016.

Mae’r cyfreithiwr wedi galw ar Donald Trump a’i gyn-gyfreithiwr, Michael Cohen, i ddatgelu gwybodaeth am y menywod a’r berthynas honedig rhyngddyn nhw â’r Arlywydd.

“Fe ddylen nhw gyhoeddi’r wybodaeth i bobol yr Unol Daleithiau nawr,” meddai. “Rhowch ddiwedd ar y gemau.”

Y cefndir

Mae Michael Avenatti yn cynrychioli Stormy Daniels – neu Stephanie Clifford o roi ei henw’n iawn – sy’n honni iddi gael rhyw gyda Donald Trump yn 2006, a hynny tra oedd yn briod.

Mae’n honni hefyd iddi dderbyn $130,000 (£99,000) gan gyn-gyfreithiwr personol Donald Trump, Michael Cohen, ar drothwy’r Etholiad Arlywyddol.

Mae Donald Trump wedi gwadu’r cyhuddiadau hyn.