Mae miloedd o bobol wedi cael eu gorfodi i ffoi, wrth i danau gwyllt daro gogledd Califfornia.

Mae un gyrrwr jac codi baw wedi’i ladd, wrth iddo geisio ymladd y fflamau. Mae tri aelod o’r gwasanaeth tân hefyd wedi’u hanafu, wrth i ddwsinau o gartrefi gael eu difrodi.

Mae’r tanau wedi sgubo trwy gymunedau Shasta a Keswick cyn ‘neidio’ dros afon Sacramento a chyrraedd dinas Redding, lle mae 92,000 o bobol yn byw.