Mae tîm pêl-droed Ffrainc wedi ennill Cwpan y Byd am yr ail waith erioed ar ôl curo Croatia o 4-2 yn y rownd derfynol ym Mosgo.
Dechreuodd y ddau dîm yn gadarn cyn i Mario Mandzukic daro’r bêl i’w rwyd ei hun i roi Ffrainc ar y blaen. Fe yw’r chwaraewr cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i sgorio gôl i’w rwyd ei hun yn y rownd derfynol.
Roedd Croatia yn gyfartal pan rwydodd Ivan Perisic, ond roedd y Ffrancwyr ar y blaen eto pan sgoriodd Antoine Griezmann o’r smotyn yn dilyn y penderfyniad cyntaf erioed gan ddyfarnwr fideo yn y rownd derfynol.
Daeth dwy gôl ola’r Ffrancwyr yn yr ail hanner, gyda Paul Pogba yn sgorio’r drydedd cyn i Kylian Mbappe sgorio’r bedwaredd – yr ail chwaraewr ar ôl Pélé i wneud hynny yn ei arddegau.
Daeth ail gôl Croatia wedyn wrth i gamgymeriad gan y golwr a’r capten Hugo Lloris alluogi Mario Mandzukic i wneud yn iawn am ei dramgwydd yn gynharach.
Rheolwr Ffrainc, Didier Deschamps yw’r trydydd rheolwr yn hanes y gystadleuaeth i godi’r tlws fel chwaraewr a rheolwr. Franz Beckenbauer o’r Almaen a Mario Zagallo o Frasil yw’r ddau arall.
Cafodd chwaraewr canol cae Croatia, Luka Modric ei enwi’n Chwaraewr y Twrnament gan ennill y Belen Aur, a Kylian Mbappe yn Chwaraewr Ifanc y Twrnament. Harry Kane o Loegr sydd wedi ennill yr Esgid Aur fel prif sgoriwr y gystadleuaeth.