Fe fydd Croatia yn ceisio ennill Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed heddiw, wrth iddyn nhw herio Ffrainc yn Stadiwm Luzhniki yn Rwsia.
Dim ond unwaith mae Ffrainc wedi ennill y gystadleuaeth, a hynny ar eu tomen eu hunain yn 1998. Bryd hynny, roedd Croatia yn drydydd.
Cyrhaeddodd Croatia y rownd derfynol ar ôl curo Lloegr, ac fe gurodd Ffrainc Wlad Belg, sy’n cael eu rheoli gan gyn-reolwr Abertawe, Roberto Martinez.
Ffrainc yw’r ffefrynnau
Er bod ganddyn nhw nifer o anafiadau, Ffrainc yw’r ffefrynnau i godi’r tlws yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl Croatia dros Loegr.
Ac fe fyddai ail dlws yn eu dyrchafu i griw dethol o wledydd sydd wedi ennill y gystadleuaeth fwy nag unwaith – gan ymuno â’r Almaen, yr Ariannin, Brasil, yr Eidal ac Wrwgwái.
Cafodd Blaise Matuidi, y chwaraewr canol cae, ei anafu yn erbyn Gwlad Belg ond mae disgwyl iddo ddechrau’r gêm.
O safbwynt Croatia, nhw fyddai’r nawfed gwlad a’r ail wlad leiaf erioed i godi’r tlws.
Mae’r asgellwr Ivan Perisic wedi’i anafu a doedd e ddim wedi ymarfer gyda’r garfan ddydd Gwener.
Ond mae’r amddiffynnwr canol Domagoj Vida ar gael ar ôl i Fifa roi’r hawl iddo chwarae wedi iddo ymddangos mewn fideo yn clodfori’r Wcráin.
Mae’r gic gyntaf am 4 o’r gloch.