Fydd y bechgyn sydd wedi’u hachub o ogof yng Ngwlad Thai ddim yn gallu mynd i rownd derfynol Cwpan y Byd yn Rwsia ddydd Sul.
Roedd FIFA, y corff sy’n gyfrifol am gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol fwya’r byd, wedi estyn gwahoddiad i’r bechgyn, sy’n aelodau o dîm pêl-droed Wild Boars, deithio i Rwsia.
Ond maen nhw’n dal yn yr ysbyty ac yn rhy sâl i deithio.
Bydd Ffrainc yn herio naill ai Croatia neu Loegr yn y gêm fawr yn Stadiwm Luzhniki ym Mosgo ddydd Sul.
Taith yn y dyfodol?
Yn dilyn y newyddion na fydd y bechgyn yn cael teithio i Rwsia, mae disgwyl i swyddogion FIFA gyfarfod ag aelodau Ffederasiwn Pêl-droed Gwlad Thai i drafod posibiliadau eraill i’r bechgyn.
Mae Clwb Pêl-droed Manchester United wedi cynnig tocynnau i gêm Old Trafford, tra bod un o chwaraewyr Lloegr, Kyle Walker wedi gofyn am gymorth ar Twitter i gael anfon crysau at y bechgyn.