Mae gwyddonwyr yn dweud eu bod gam yn nes at atal diflaniad y rhinoserws gwyn gogleddol – gyda dim ond dau ohonyn nhw ar ol yn y byd i gyd.
Yn ôl papur a gyhoeddir yn y cylchgrawn Nature Communications, mae ymchwilwyr wedi llwyddo i greu embryonau gan ddefnyddio sberm rhino gwyn wedi’i rhewi ac wyau o rhino gwyn deheuol.
Dyma’r tro cyntaf i’r embryonau hybrid hyn gael eu creu, a dywed gwyddonwyr o’r Almaen, yr Eidal a’r Weriniaeth Tsiec sy’n cydweithio ar y prosiect, y gallai ffordd o achub y rhinoserws.
Maen nhw’n bwriadu casglu celloedd wyau’r ddau rhinoserws benywaidd sy’n dal yn fyw. a defnyddio sberm sydd wedi’i storio, er mwyn cynhyrchu embryonau rhinoserws gwyn ‘pur’.