Mae achubwyr wrthi’n pwmpio dŵr allan o dwneli yng Ngwlad Thai, er mwyn helpu grŵp o fechgyn sy’n sownd mewn ogof.
Erbyn hyn, mae’r bechgyn 11-16 oed – a hyfforddwr eu tîm pêl-droed – wedi bod yn sownd yn ogof Tham Luang Nang Non am dros wythnos.
A gan fod y twneli tuag at yr arwyneb llawn dŵr, mae’r ymdrech i’w hachub wedi’i rhwystro cryn dipyn.
Mae’r awdurdodau yn ystyried sawl opsiwn i’w hachub, ac mae’n ddigon posib y bydd yn rhaid i’r bechgyn nofio trwy’r twneli er mwyn dianc o’r ogof.
Gan nad yw’r grŵp yn gyfarwydd ag offer sgwba, mae ymgyrch ar droed yn awr i ostwng lefel y dŵr er mwyn gwneud hi’n haws nofio trwy’r twneli.