Mae dwsin o fechgyn a’u hyfforddwr pêl droed sy’n sownd mewn ogof yng Ngwlad Thai, mewn “cyflwr sefydlog”.

“Er bod ambell un gydag anafiadau neu fân anafiadau, ac mewn cyflwr difrifol,” meddai swyddog o dalaith Chiang Rai, “does dim un ohonyn nhw mewn cyflwr argyfyngus”.

Bellach mae’r bechgyn wedi bod yn sownd yn yr ogof ers dros wythnos, a dyw hi ddim yn glir pryd fydd modd iddyn nhw gael eu cludo oddi yno.

Mae’r ymgyrch i’w hachub yn wynebu un rhwystr mawr, sef bod y twneli sy’n cysylltu’r ogof â’r arwyneb wedi’u llenwi â dŵr.

Ac ar hyn o bryd, mae’n edrych fel y bydd rhaid i’r bechgyn aros yno tan fydd y dŵr yn cilio.

Fe ddiflannodd y bechgyn – mae pob un rhwng 11 a 16 blwydd oed – ar Fehefin 23, a chawson nhw eu darganfod gan dîm o blymwyr ddydd Llun (Gorffennaf 2).