Mae seryddwyr wedi rhannu llun sy’n dangos planed yn ffurfio o gwmpas seren ifanc.
Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r blaned yn ymddangos fel smotyn llachar mewn llun a gafodd ei dynnu gan sbïeinddrych anferth yn Chile.
Mae gwyddonwyr yn meddwl eu bod nhw wedi darganfod planedau’n ffurfio o’r blaen, ond dyma’r llun cynta’ i gadarnhau mai planed ifanc, ac nid llwch gofod yn unig, sydd yn y llun.
Mewn papur a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Atronomy & Atrophysics, mae seryddwyr yn disgrifio’r planed, sydd wedi’i leoli tua 1.86 biliwn o filltiroedd o’r seren PDS 70, fel cawr nwyol sy’n fwy na’r blaned Sadwrn.
Maen nhw hefyd yn dweud bod ganddo awyr cymylog, a thymheredd o 1,000⁰C.