Mae 12 o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed, a oedd wedi bod ar goll mewn ogof yng Ngwlad Thai ers mwy nag wythnos, wedi cael eu darganfod yn fyw.

Fe ddiflannodd y bechgyn, rhwng 11 a 16 oed, a’r hyfforddwr 25 oed, ar ôl i ddŵr lifo i ogof Tham Luang Nang Non ar 23 Mehefin.

Roedd deifwyr a thimau achub wedi llwyddo i fynd i mewn i’r ogof yn gynnar ddydd Llun (2 Gorffennaf) ar ôl i lefel y dŵr eu rhwystro rhag gwneud hynny cyn heddiw.