Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydrad yn Afghanistan, a wnaeth ladd 19 o bobol.
Siciaid a Hindŵiaid oedd y mwyafrif o bobol a gafodd eu lladd, a chafodd 20 person eu hanafu.
Cawson nhw eu targedu gan hunanfomiwr wrth ymlwybro trwy ddinas Jalalabad ddydd Sul (Gorffennaf 1). Roedden nhw ar y ffordd i gwrdd â’r Arlywydd Ashraf Ghani.
Mae Siciaid a Hindŵiaid wedi cael eu targedu yn Afghanistan yn y gorffennol, a thros gyfres o ddegawdau mae degau o filoedd wedi gadael y wlad.
“Rhaid dod â chynllwynwyr y drosedd hon gerbron llys,” meddai cynrychiolydd y Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan.