Mae gweinidog materion cartref yr Almaen wedi bygwth ymddiswyddo, gan roi rhagor o bwysau ar lywodraeth glymblaid y wlad.
Daw’r cam hwn gan Horst Seehofer, yn sgil pryderon am safiad y wlad tros ffoaduriaid a mewnfudwyr – safiad sydd yn rhy hael, yn ei farn ef.
Mae Horst Seehofer yn bennaeth ar yr Undeb Cristnogol Cymdeithasol, plaid sy’n rhan allweddol o lywodraeth yr Almaen.
Ac mi fydd yn cynnal trafodaethau ag Angela Merkel – Canghellor yr Almaen a phennaeth plaid yr Undeb Democrataidd Cristnogol – yn ddiweddarach.
Mewnfudo
Llwyddodd Angela Merkel i daro bargen ar fewnfudo a ffoaduriaid yng nghynhadledd yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwetha’.
Ac mae rhai yn dadlau bod Horst Seehofer wedi penderfynu herio’r Canghellor, er mwyn cynyddu apêl ei blaid ymhlith pleidleiswyr ceidwadol.