Cafodd 13 o bobl eu lladd ar ôl i fom ffrwydro mewn car tu allan i fwyty i’r de o Baghdad yn Irac.

Dywedodd y Dr Zuhair al-Khafaji, o ysbyty Hillah bod 41 o bobl gerllaw hefyd wedi eu hanafu yn yr ymosodiad a ddigwyddodd ychydig cyn 8 y bore yn nhre al-Shumali.

Roedd yr heddlu lleol yn cael brecwast yn y bwyty pan ffrwydrodd y bom, yn ôl swyddogion. Does dim manylion ar hyn o bryd faint o blismyn oedd ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Yn y cyfamser cafodd dau filwr eu lladd a naw o bobl eraill eu hanafu ar ôl i fom ffrwydro ar ochr y ffordd yng ngorllewin Irac. Digwyddodd yr ymosodiad ger tre Habbaniyah, 50 milltir i’r gorllewin o Baghdad.