Prifysgol Glyndwr (Geoff Evans CCA 2.0)
Mae holl Aelodau Cynulliad a Senedd Llafur y Gogledd-ddwyrain yn gwrthwynebu bwriad eu llywodraeth eu hunain i roi Prifysgol Glyndŵr dan adain Bangor ac Aberystwyth.

Maen nhw wedi dod at ei gilydd i bledio achos y brifysgol o Wrecsam wrth ymateb i ymgynghoriad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Ond y dyn y tu cefn i’r cynigion yw’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, sydd eisiau gweld nifer prifysgolion Cymru’n cwympo o 11 i 6.

O dan y cynigion a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, fe fydd Bangor ac Aberystwyth yn cael eu hannog i uno yn y tymor hir ac i ddod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith Prifysgol Glyndŵr.

‘Difrod i gyfleoedd addysg’

Yn ôl AC Delyn, David Hanson, fe fyddai hynny’n gwneud drwg i safle’r brifysgol yn ei chymdeithas yn y Gogledd-ddwyrain.

“Fe fyddai gwanhau’r cysylltiad lleol yn debyg o wneud difrod i gyfleoedd addysg yn ein rhan ni o Gymru,” meddai wrth raglen newyddion fore Radio Wales.

Oherwydd y pellter i Fangor ac Aberystwyth, fe ddywedodd hefyd y byddai Prifysgol Glyndwr yn colli busnes oedd wedi ei feithrin gyda chwmnïau a chyrff ar ochr arall Clawdd Offa.

Gwasanaeth ‘unigryw’

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi rhoi pwyslais ar geisio cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig, gan ddweud eu bod yn cynnig cyfle unigryw yn y sector yng Nghymru.

Hi sy’n codi’r ffioedd dysgu isa’ y flwyddyn nesa’ – cyfartaledd o £6,643 yn hytrach na’r uchafswm o £9,000.

Ar y pryd, fe ddywedodd llefarydd: “Rydym yn brifysgol sydd wedi ei gwreiddio o fewn agenda datblygu economaidd a chyfiawnder cymdeithasol gogledd-ddwyrain Cymru, ac mae gynnon ni rôl allweddol yn y rhanbarth.”