Hamid Karzai -y trosglwyddo;n parhau (Llun: Cynhadledd Ddioglwch Munich CCA 3.0)
Fe ddaeth brwydr 20 awr i ben ym mhrifddinas Afghanistan wrth i hofrenyddion danio at adeilad lle’r oedd rhai o wrthryfelwyr y Taliban yn cuddio.
Fe gafodd pob un o’r chwech ymosodwr eu lladd ynghyd â phedwar plisman a thri o bobol gyffredin.
Roedd yr ymosodwyr wedi meddiannu adeilad gerllaw llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau a chanolfan lluoedd rhyngwladol NATO yng nghanol Kabul.
Roedd yr adeilad ar hanner ei adeiladu ac, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, roedd y gwrthryfelwyr yn tanio rocedi at y ddwy ganolfan.
Mae Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, yn mynnu na fydd y frwydr yn atal y broses o drosglwyddo grym o ddwylo’r lluoedd diogelwch i ddwylo byddin Afghanistan.
Er hynny, dyma’r tro cynta’ i’r Taliban lwyddo gyda chyrch mor uchelgeisiol yn y brifddinas.