Angela Merkel
Mae Canghellor yr Almaen wedi ceisio tawelu’r marchnadoedd arian trwy wrthod y syniad y bydd Gwlad Groeg yn methdalu.
Fe ddywedodd Angela Merkel bod angen i wledydd yr Euro barhau i geisio torri ar eu colledion ariannol a dod yn fwy cystadleuol.
Cyn cynhadledd ffôn gydag Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, a Phrif Weinidog Groeg, George Papandreou, fe ddywedodd y byddai’r broses yn un “hir iawn, fesul cam”.
Yn ôl Angela Merkel, mae Llywodraeth Gwlad Groeg wedi dechrau gwneud y pethau angenrheidiol ac arwydd o hynny oedd fod gobaith am ragor o arian gan y gymuned ryngwladol.
Mae cynrychiolwyr ar eu ffordd yn ôl yno o’r tri chorff sydd wedi benthyg arian i gynnal economi’r wlad – y Comisiwn Ewropeaidd, Banc Canolog Ewrop a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (yr IMF).