Llun o glawr y ddogfen
Fe ddylai cleifion mewn ysbytai gael prydau bwyd maethlon sy’n ateb eu hanghenion unigol, meddai dogfen newydd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae hynny’n cynnwys prydau arbennig i weddu â dewisiadau pobol – fel bod yn llysieuwyr – ac arferion bwyta sy’n ymwneud â chefndir ethnig neu grefyddol.

Mae’r ddogfen, Bwyta’n Dda yn yr Ysbyty, yn dilyn adroddiad gan y Swyddfa Archwilio ynghynt eleni.

Roedd hwnnw’n dangos bod safonau wedi gwella yn ysbytai Cymru ond bod rhagor o waith i’w wneud o hyd.

Yn y gorffennol, roedd ysbytai wedi cael eu beirniadu am roi bwyd anaddas o flaen cleifion, a hwnnw’n aml yn fwyd gwael o ran maeth ac iechyd.

Yr argymhellion

Mae rhai o argymhellion y ddogfen yn cynnwys:

  • Bod cleifion yn cael archwiliad wrth gyrraedd ysbyty i benderfynu ar eu hanghenion.
  • Os oes ganddyn nhw anghenion arbennig, fe ddylai’r ysbyty baratoi cynllun gofal.
  • Fe ddylai dŵr yfed fod ar gael trwy’r amser a chleifion yn cael cynnig o leia’ saith paned o de neu goffi bob dydd.
  • Ddylai staff meddygol ddim tarfu ar amser bwyd cleifion ac, os yw cleifion yn colli pryd oherwydd triniaeth, fe ddylen nhw gael cynnig pryd arall.

Mae’r ddogfen hefyd yn dweud beth ddylai cleifion ei wneud os nac ydyn nhw’n hapus gyda’r bwyd.