Mae Llywodraeth Sbaen wedi cynnig derbyn llong yn llawn ffoaduriaid o Libanus, ar ôl i’r Eidal ac ynys Melita wrthod estyn croeso iddyn nhw.
Bu ffrae fawr rhwng y ddwy ochr ddoe (dydd Llun, Mehefin 11) ar ôl i Lywodraeth glymblaid newydd yr Eidal wrthod derbyn llong o’r enw Aquarius sy’n cario dros 600 o ffoaduriaid.
Ond er i’r ddwy wlad ddiolch i Brif Weinidog newydd Sbaen, Pedro Sanchez, am y cynnig i dderbyn y llong i’w phorthladd yn Valencia, does dim sicrwydd y bydd yr Aquarius yn cychwyn ar ei daith yno.
Yn ôl swyddogion y llong, dydyn nhw ddim wedi cael unrhyw orchmynion eto i symud.
Y cefndir
Fe gynheuodd y ffrae rhwng yr Eidal a Melita ar ôl i Ddirprwy Brif Weinidog yr Eidal, Matteo Salvini, gyhoeddi bod porthladdoedd y wlad “ynghau”, gan fynnu mai ynys Melita ddylai gymryd cyfrifoldeb am y 629 o bobol ar fwrdd yr Aquarius.
Ond fe wrthododd Melita hynny, gan nodi mai’r Eidal sy’n gyfrifol am y ffoaduriaid dan reolau rhyngwladol.
Yn ôl Prif Weinidog Melita, Jospeh Muscat, mae’r Eidal yn euog o greu “sefyllfa beryglus” yn sgil eu penderfyniad i beidio â derbyn llong y maen nhw’n gyfrifol amdani.