Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau ac arweinydd Gogledd Corea wedi arwyddo dogfen a fydd yn “newid y byd”.
Er nad oes manylion am y ddogfen wedi’u cadarnhau eto, mae yna ddyfalu ei bod yn gysylltiedig â gobeithion yr Unol Daleithiau i ddarbwyllo Gogledd Corea i roi’r gorau i’w harfau niwclear.
Mae’r ddau arweinydd wedi bod yn cyfarfod mewn uwchgynhadledd yn Singapôr, y digwyddiad cynta’ o’i fath rhwng Arlywydd yr Unol Daleithiau ac arweinydd Gogledd Corea.
“Rhoi’r gorffennol tu cefn i ni”
Yn dilyn y cyfarfod, mae Donald Trump yn dweud ei fod ef a Kim Jong Un wedi “datblygu perthynas arbennig iawn”.
Mi ddywedodd Kim Jong Un wedyn y byddai’r “byd yn gweld newid mawr” o ganlyniad i hynny, a’i fod yntau a Donald Trump wedi penderfynu “rhoi’r gorffennol y tu cefn” iddyn nhw.
Ychwanegodd Donald Trump y bydd Gogledd Corea yn cychwyn ar y broses o gael gwared ar ei harfau niwclear “cyn bo hir”, ac y byddai gwybodaeth am y ddogfen yn cael ei datgelu o fewn yr oriau nesa’.