Mae economegydd wedi’i ddewis i arwain yr Eidal at etholiad cynnar, wedi i bleidiau sy’n ceisio apelio trwy bolisïau poblogaidd, asgell dde, fethu ag argyhoeddi arlywydd y wlad eu bod nhw o ddifri.

Mae arbenigwr ariannol, Carlo Cottarelli, wedi bod yn siarad â newyddiadurwyr heddiw, ac yn dweud mai dymuniad yr arlywydd, Sergio Mattarella, yw iddo ffrufio llywodraeth a fydd yn rhoi’r economi yn gyntaf.

Mae etholiadau Mawrth 4 wedi gadael yr Eidal mewn tir neb gwleidyddol, gyda’r gwleidyddion yn methu dod i gytundeb. Mae hynny wedi codi ofn ar y marchnadoedd arian, gyda buddsoddwyr yn bygwth cilio o’r wlad.

“Yn y dyddiau diwetha’, mae tensiynau wedi codi yn y marchnadoedd arian,” meddai Carlo Cottarelli.

“Ond y gwir yw fod yr Eidal yn tyfu, ac mae cyllideb y wlad yn parhau i fod dan reolaeth gadarn. Fe fydd llywodraeth dan fy arweiniad i yn dal gafael gofalus ar arian cyhoeddus.”