Bydd Rwsia yn bwrw ati i foderneiddio arfau ei byddin a phrynu rhagor o gerbydau rhyfel, yn ôl Arlywydd y wlad.
Wrth siarad mewn cyfarfod yn ninas Sochi, dywedodd Vladimir Putin y byddai’r fyddin yn derbyn cannoedd o awyrennau a sustemau taflegrau.
Yn ogystal, mi rybuddiodd cynhyrchwyr arfau bod dyletswydd arnyn nhw i gynhyrchu digon o arfau.
Mae’r Arlywydd wedi cynnal cyfres o gynadleddau milwrol yn ddiweddar, wrth i densiynau â’r Gorllewin tros ryfeloedd yr Wcráin a Syria ddwysáu.