Mae nifer y Palesteiniaid sydd wedi cael eu lladd mewn protestiadau yn Gaza wedi codi i 58.
Daw hyn ar ôl diwrnod arall o wrthdaro ger y ffin ag Israel, wrth i filoedd o Balesteiniaid brotestio yn erbyn penderfyniad yr Unol Daleithiau i symud ei llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jeriwsalem.
O’r 58 a gafodd eu lladd, mae’r weinyddiaeth iechyd yn Gaza yn dweud bod 57 o bobol wedi’u lladd ar ôl i’r awdurdodau yn Israel saethu atyn nhw ac fe fu farw un babi ar ôl iddo anadlu nwy.
Maen nhw hefyd yn dweud bod dros 2,700 wedi cael eu hanafu yn ystod y protestiadau ddoe, gyda 130 o’r rheiny mewn cyflwr difrifol wael.
Cyfarfod arbennig
Yn dilyn y gwrthdaro ddoe, mae disgwyl y bydd y Cenhedloedd Newydd yn trafod y cyflafan mewn cyfarfod arbennig heddiw.
Mae Israel wedi ymateb trwy ddweud mai amddiffyn y ffin yr oedd ei byddin, ac maen nhw wedi cyhuddo’r grŵp Hamas o ddefnyddio’r protestiadau fel esgus i ddefnyddio trais.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud yr un peth ac yn mynnu bod gan Israel hawl i’w hamddiffyn ei hun.
Ei benderfyniad ef i symud y llysgenhadaeth sydd wedi tanio’r protestiadau diweddara’ – er fod y Palesteiniaid hefyd yn ystyried Jeriwsalem yn brifddinas iddyn nhw ac er gwaetha’ rhybuddion y byddai’’r penderfyniad yn arwain at drais.
Dyma’r diwrnod mwya’ gwaedlyd yn Gaza ers y rhyfel yn 2014.