Mae lle i gredu mai jihadwyr oedd yn gyfrifol am saethu o leiaf 40 o bobol yn farw mewn dau ymosodiad ym Mali ddydd Iau a dydd Gwener.

Y gred yw eu bod yn aelodau o’r Wladwriaeth Islamaidd yn Sahara Fawr, a’u bod yn ymateb i weithgarwch milwrol y Tuareg yn y rhanbarth.

Fe fu brwydro ffyrnig yng ngogledd-ddwyrain y wlad ers rhai misoedd.

Ddechrau’r mis, dywedodd un o benaethiaid y Cenhedloedd Unedig fod y Tuareg wedi lladd 95 o bobol Fulani yn y rhanbarth, ac fe allai’r ymosodiadau diweddaraf fod yn ymgais i ddial am y digwyddiad hwnnw.