Mae pedwar o bobol yn yr ysbyty ar ôl cael eu taro gan gerbyd yng Nghasnewydd ar ddiwrnod marathon y ddinas.
Mae’r digwyddiad wedi achosi oedi cyn dechrau’r marathon.
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl y digwyddiad ar Heol Cambrian am 5.30 fore heddiw, ac mae’r heddlu’n chwilio am ddyn croenddu – o bosib yn ei ugeiniau – oedd yn gyrru car Ford C Max glas. Fe wnaeth y gyrrwr ffoi wedi’r digwyddiad.
Cafwyd hyd i’r car wedi ei losgi ar Stryd Magwyr yn ddiweddarach.
Mae lle i gredu bod dwy ferch wedi cael anafiadau fydd yn newid eu bywydau.
Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.
Roedd disgwyl hyd at 6,000 o redwyr yn y ddinas ar y gyfer y ras.
Pob lwc i bawb sy’n rhedeg marathon Casnewydd bore ‘ma a phob lwc yn arbennig i Miss Williams. / Good luck to everyone running the Newport marathon this morning and a special good luck to Miss Williams. 🏃♀️🏃🏻♂️ https://t.co/rpq4IzqiAg
— Ysgol G Cwmbrân (@YGCwmbran) April 29, 2018
Pob lwc i Mr Dylan Hughes a Miss Carys Davies sy’n rhedeg marathon Casnewydd heddiw! // Good luck to Mr Dylan Hughes and Miss Carys Davies who are running the Newport marathon today! #AgoredIHer 🏃♂️🏃♀️
— Garth Olwg (@garth_olwg) April 29, 2018
Pob lwc Miss Pinch yn rhedeg mewn crys YGC yn marathon Casnewydd heddiw. Good luck to Miss Pinch running in a YGC vest in today’s @NewportMarathon If you can, go out to support her pic.twitter.com/vXjFRhaWP0
— Ysgol (@YsgolGCasnewydd) April 29, 2018