Mae bron i naw tunnell o’r cyffur cocên wedi’i ddarganfod ymhlith bananas oedd yn cael eu cludo o Golombia yn Ne America i Sbaen.
Dyma’r lwlyth mwyaf o gyffuriau erioed i gael ei ddarganfod ar fwrdd llong yn Ewrop.
Mae chwech o bobol wedi’u harestio – pedwar ohonyn nhw yn Sbaen, a’r ddau arall yn Ffrainc.
Cyrhaeddodd y llong borthladd Algeciras yn ne Sbaen ddydd Sul diwethaf. Y porthladd hwn yw’r un mwyaf poblogaidd am smyglo cyffuriau i mewn i’r wlad.
Ym mis Ionawr, daeth yr awdurdodau o hyd i chwe thunnell o gocên yno.
Mae Sbaen wedi addo brwydro i ddatrys ei phroblemau’n ymwneud â chyffuriau.