Mae arweinydd ysbrydol yn India wedi’i gael yn euog o dreisio un o’i ddilynwyr ifanc yn 2013, ac mae’n wynebu oes o garchar.

Fe gafodd y dyfarniad yn erbyn Asaram Bapu, 77, ei darllen y tu fewn i’r carchar yn ninas Jodhpur oherwydd pryderon y gallai ei ddilynwyr achosi helynt.

Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o achosion amlwg o dreisio yn India, sydd wedi codi cwestiynau ynglyn â’r modd y mae’r heddlu yn trin dioddefwyr.

Ym mis Awst y llynedd, fe gafodd gwrw lliwgar arall, Saint Gurmeet Singh Ram Rahim Insan, ei ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo am dreisio dwy o’i ddilynwyr.

Fe fydd dedfryd Asaram Bapu yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach heddiw.

Mewn cwyn i’r heddlu yn 2013, roedd y ferch a gafodd ei threisio ganddo yn dweud iddi gael ei threisio at ymweliad â Jodhpur gyda’i mam y flwyddyn honno. Roedd ei theulu wedi bod yn ddilynwyr ers dros ddegawd.

Mae Asaram Bapu wedi cael ei gadw yn y ddalfa ers cael ei arestio yn 2013.