Mae Gogledd Corea yn awyddus i drafod â’r Unol Daleithiau “cyn gynted ag sy’n bosib”, yn ôl Donald Trump.

Yn ogystal, mae’r Arlywydd wedi canmol arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, am fod yn “agored”.

Daw hyn yn sgil cyfnod o densiwn rhwng y ddau arweinydd.

Mae duagwyl y bydd Donald Trump a Kim Jong Un yn cyfarfod naill ai ym mis Mai neu hyd yn oed ddiwwdd y mis hwn, gyda’r nod o daro bargen tros amcanion niwclear Gogledd Corea.

“Cawn weld sut eith pethau,” meddai Donald Trump. “Efallai bydd [y cyfarfod] yn wych. Ond, efallai ddim.”

Cefnu

Hyd yma mae Gogledd Corea wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymatal rhag cynnal profion taflegrau ac yn cau safle arbrofi niwclear – “Cam mawr ymlaen” yn ôl Donald Trump.

Ond, dyw’r wlad ddim wedi awgrymu y byddan nhw’n cefnu’n llwyr ar eu rhaglen niwclear.