Mae beth bynnag 21 o blant wedi marw, wedi i fws ysgol blymio i mewn i ffos yn ardal yr Himalaya yn India.

Mae’r adroddiadau cyntaf am y ddamwain yn awgrymu fod y gyrrwr yn gor-yrru cyn iddo golli rheolaeth o’r cerbyd, gan wyro oddi ar y ffordd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Nyffryn Kangra, tua 500km (300 milltir) o ddinas Delhi Newydd.