Mae ymgeisydd aflwyddiannus am arlywyddiaeth Sierra Leone wedi dweud y bydd ei blaid yn herio’r canlyniad yr etholiad yn gyfreithiol.

Daeth i’r amlwg ddydd Mercher (Ebrill 4) mai Julius Maada Bio o Blaid Pobol Sierra Leone, oedd wedi ennill y bleidlais i fod yn Arlywydd ac mae bellach wedi dechrau ei swydd.

Ond, mewn cyfweliad deledu mae’r ymgeisydd aflwyddiannus, Samura Kamara, wedi datgan “nad yw’r canlyniadau yn adlewyrchu ewyllys y bobol”.

Mae hefyd wedi dweud y bydd ei blaid, Cyngres Bobol Oll, yn cymryd y “camau cyfreithiol priodol”.

Dyma’r tro cyntaf ers degawd i Blaid Pobol Sierra Leone, ennill yr etholiad arlywyddol. Enillodd Julius Maada Bio â 51.81% o’r bleidlais.