Mae senedd Myanmar wedi ethol cyfaill i Aung San Suu Kyi yn arlywydd.
Ag Aung San Suu Kyi yn Gwnsler Gwladol, fe fydd Win Myint yn ymuno â hi yn bennaeth ar y llywodraeth.
Yn debyg i’w rhagflaenydd, Htin Kyaw, a gyhoeddodd ei ymddeoliad yr wythnos ddiwethaf, mae Win Myint yn un o hoelion wyth y Gynghrair Genedlaethol tros Ddemocratiaeth.
Daw’r bleidlais yn ystod cyfnod tymhestlog i’r wlad, wrth i broblemau â grŵp lleiafrifol y Rohingya ddwysau – mae byddin y wlad wrthi’n cynnal ymgyrch yn eu herbyn.
Er i fyddin Myanmar drosglwyddo rhai pwerau i’r Llywodraeth yn 2016, hi sy’n dal i reoli materion diogelwch y wlad.