Mae disgwyl i gyn-Arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, ymddangos gerbron llys yn yr Almaen heddiw, a hynny ar ôl iddo gael ei arestio ddoe (Mawrth 25) gan awdurdodau’r wlad ar warant Ewropeaidd.
Fe fydd yr achos llys yn ystyried p’un a ddylai Carles Puigdemont gael ei ryddhau neu ei gadw yn y ddalfa wrth i benderfyniadau pellach cael eu gwneud ynglŷn â’i estraddodi’n ôl i Sbaen.
Er hyn, dyw’r erlynwyr yn rhanbarth Schleswig-Holstein yn yr Almaen ddim wedi cadarnhau ble fydd y gwrandawiad llys yn cymryd lle.
Y cefndir
Mae’r cyfryngau yn yr Almaen yn dweud bod Carles Puigdemont wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn nhref Neumunster yn y rhanbarth ddoe, a hynny oriau yn unig ar ôl i warant Ewropeaidd i’w arestio gael ei chyhoeddi.
Roedd e ar ei ffordd o Ddenmarc i Wlad Belg, yn ôl ei gyfreithiwr, wedi iddo fod yn y Ffindir ers dydd Iau.
Mae’r awdurdodau yn Sbaen yn cyhuddo Carles Puidgemont, a oedd yn arweinydd ar Gatalwnia yn ystod y refferendwm am annibyniaeth fis Hydref y llynedd, o wrthryfela ac o annog gwrthryfel.
Mae wedi bod yn byw fel alltud yng Ngwlad Belg ers y mis Hydref hwnnw, ac mae’n wynebu 30 o flynyddoedd dan glo os yw’n ei gael yn euog.
Arestio eraill
Ymhlith yr unigolion eraill sydd wedi cael eu harestio mae Jordi Turull, yr ymgeisydd arlywyddol diweddaraf, a gafodd ei arestio ddydd Gwener, gan arwain at brotestiadau yn Barcelona.
Yng ngwledydd Prydain wedyn, mae’r cyn-Weinidog Addysg, Clara Ponsati, sy’n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Sant Andrew yn Fife, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn mynd o’i gwirfodd at yr awdurdodau.
Er hyn, mae ei chyfreithiwr wedi dweud y byddai’n gwrthwynebu unrhyw ymgais i’w hestraddodi yn ôl i Sbaen, gan gyfeirio ato fel “erlyniad gwleidyddol”.