Mae actores mewn ffilmiau pornograffig yn honni ei bod wedi cael rhybudd i “gadw’n dawel” ar ôl iddi gael rhyw gyda Donald Trump yn 2006.

Bu Stormy Daniels yn adrodd ei stori mewn cyfweliad ar raglen 60 Minutes ar CBS nos Sul, 25 Mawrth.

Mae hi’n honni ei bod wedi cael ei bygwth gan ddyn anhysbys mewn maes parcio yn Las Vegas yn 2011 i gadw’n dawel am ei pherthynas honedig gyda Donald Trump. Mae  Stormy Daniels hefyd yn honni bod y digwyddiad wedi digwydd pan oedd hi gyda’i merch ifanc.

Yn ystod y cyfweliad dywedodd ei bod wedi cael rhyw gyda Donald Trump unwaith ond mae’n mynnu ei bod hi wedi cydsynio.

Fe ddigwyddodd y berthynas cyn i Donald Trump ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Roedd Stormy Daniels wedi derbyn $130,000 (£91,700) cyn yr ymgyrch arlywyddol yn 2016 er mwyn sicrhau ei bod yn cadw’n dawel am y digwyddiad ac mae hi wedi ceisio annilysu cytundeb i beidio datgelu manylion.

Mae cynrychiolwyr Donald Trump wedi gwadu’r honiadau. Nid yw’r Tŷ Gwyn wedi ymateb i’r cyfweliad hyd yn hyn.

Mae cyfreithiwr Donald Trump, Michael Cohen, yn mynnu nad oedd yr Arlywydd wedi cael perthynas gyda Stormy Daniels ac mae’n dweud ei fod e wedi talu $130,000 o’i boced ei hun.