Mae erlynwyr yn Ne Corea wedi cyhoeddi gwarant i arestio cyn-Arlywydd y wlad.
Mae Lee Myung-bak, a oedd wrth y llyw rhwng 2008 a 2013, wedi’i gyhuddo o dwyll, ac fe yw’r Arlywydd diweddaraf o’r wlad i gael ei gysylltu â gweithredoedd o’r fath.
Dim ond y llynedd y cafodd ei olynydd ceidwadol, Park Geun-hye, sef y ddynes gyntaf i fod yn Arlywydd ar Dde Corea, ei dedfrydu i garchar am weithredoedd ysgeler tra oedd yn parhau yn y swydd.
Ac erbyn hyn, mae swyddfa’r erlynwyr yn Seoul wedi gwneud cais i arestio Lee Myung-bak, ac yn ôl y wasg yn Ne Corea, mae disgwyl i’r cais gael ei ystyried ar y cynharaf erbyn nos Fercher.
Y cyhuddiadau
Ymhlith y cyhuddiadau yn ei erbyn mai’r ffaith iddo dderbyn 11 biliwn won (sef £7 miliwn) trwy gyfrwng llwgrwobrwyo, a hynny oddi wrth ei asiant gwybodaeth ei hun, grwpiau busnes, ynghyd â chyn-Aelod Seneddol.
Maen nhw hefyd yn ei gyhuddo o ddefnyddio cwmni rhannau ceir ar gyfer symud arian ‘drwg’ gwerth 30 biliwn won (£20 biliwn).
Er hyn, mae Lee Myung-bak wedi ymateb gan ddweud bod y cyhuddiadau yn ceisio “dial yn wleidyddol”, a hynny gan Lywodraeth bresennol y wlad, sy’n cael ei arwain gan y rhyddfrydwr, Moon Jae-in.
Mae bron i bob Arlywydd ar Dde Corea, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd a’u cyd-weithwyr, wedi bod yn gysylltiedig â thwyll dros y blynyddoedd, a hynny tra’r oedden nhw’n parhau yn y swydd, neu wedi gadael.