Mae o leiaf 49 o bobol wedi marw, a 16 wedi eu hanafu wedi i awyren daro’r ddaear yn Nepal.
Roedd yr awyren yn ceisio glanio ym Maes Awyr Kathmandu, ym mhrifddinas y wlad pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd 71 o deithwyr ar ei bwrdd ar y pryd.
Cwmni US-Bangla Airlines sy’n berchen ar yr awyren, ac mae’n debyg yr oedd wedi teithio o Dhaka ym Mangladesh.