Mae swyddogion o Dde Corea wedi cyrraedd prifddinas Gogledd Corea, sef Pyongyang, a hynny er mwyn cynnal trafodaethau ar sut i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad.

Yn ystod eu hymweliad, a fydd yn para dau ddiwrnod, fe fyddan nhw hefyd yn ceisio lleddfu’r tensiynau sy’n deillio o gynllun niwclear y Gogledd.

Mae’r gwasanaeth newyddion yn Ne Corea, Yonhap, wedi cyfeirio at y ffaith bod radio cenedlaethol Gogledd Corea wedi dweud bod y gynrychiolaeth o 10 person eisoes wedi cyrraedd maes awyr Pyongyang.

Gobaith y gynrychiolaeth, sy’n cael ei arwain gan Chung Eui-yong, sef pennaeth asiantaeth diogelwch De Corea, yw cwrdd ag arweinydd y Gogledd, Kim Jong Un.

Cyn ymadael am y wlad, fe ddywedodd Chung Eui-yong wrth y cyfryngau ei fod am gyfleu gobeithion Arlywydd De Corea ar gyfer diarfogi niwclear a heddwch parhaol ar ynys Corea.