Fe fydd yr heddlu yn Seland Newydd yn ail-ystyried cynllwyn gan fachgen 17 oed i geisio lladd y Frenhines yn 1981.

Daw hyn ar ôl i bapurau swyddogol gael eu rhyddhau sy’n bwrw goleuni newydd ar sut y methodd Christopher John Lewis â saethu’r Frenhines yn ystod ei hymweliad â Dunedin yn yr ynys ddeheuol yn 1981.

Ers y digwyddiad, mae’r awdurdodau yn Seland Newydd wedi gorfod wynebu cyhuddiadau o guddio’r ffeithiau, wedi iddyn nhw ddweud wrth y cyfryngau ar y pryd mai sŵn arwydd yn cwympo oedd y sŵn gwn honedig roedd rhai wedi’i glywed.

Chafodd Christopher John Lewis, a fu farw yn 1997 ddim ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth chwaith, sydd wedi ychwanegu at yr amheuon.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, mi fydd aelod profiadol o’r llu yn ymgymryd â’r gwaith o ailystyried yr achos, ac maen nhw’n amcangyfrif y bydd yr ymchwiliad yn para “cryn amser”, oherwydd ei fod yn “fater hanesyddol”.