Mae erlynwyr wedi mynnu y dylai cyn-arlywydd De Corea dreulio 30 mlynedd dan glo, am droseddau honedig yn ymwneud â thwyll a chamddefnydd o rym.

Dydi Park Geun-hye ddim wedi troi i fyny i’r llys heddiw heddiw (ddydd Mawrth) lle mae achos yn ei herbyn yn deillio o’r adeg y cafodd ei symud o’i swydd. Hi oedd arweinydd benywaidd cynta’r wlad.

Mae erlynwyr hefyd yn mynnu ei bod yn cael ei dirwyo 118.5 biliwn won (£79m), gan iddi fethu â dangos dim edifeirwch am “amharu ar drefn gyfansoddiadol ac am chwalu ymddiriedaeth y cyhoedd yng ngrym y wladwriaeth”.

Mae disgwyl i’r llys gyhoeddi heddiw pryd y bydd y dyfarniad yn cael ei gyhoeddi, a phryd y bydd y ddedfryd – os yn euog – yn cael ei rhoi.

Pe byddai’r llys yn cael Park Geun-hye yn euog, hi fyddai trydydd arlywydd De Corea i’w chael yn euog mewn llys barn, Roedd y lleill yn gyn-filwyr a fu’n rhan o coup d’etat yn 1979 ac o ladd pobol gyffredin yn 1980.