Fydd athletwr Rwsiaidd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ddim yn cael chwifio’u baner genedlaethol yn y seremoni i ddirwyn y Gemau i ben yn Pyeongchang.
Dywedodd Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Thomas Bach fod yr achosion diweddaraf o fethu prawf cyffuriau’n “gysgod” pellach tros y Gemau.
Roedd y ddau yn cystadlu o dan faner Athletwyr Olympaidd Rwsia, sy’n wahanol i gystadlu yn enw’r wlad ei hun ac mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi penderfynu peidio dod â’r gwaharddiad i ben ar gyfer y seremoni i gloi’r Gemau.
Mae hynny’n golygu y bydd athletwyr o Rwsia’n gorymdeithio o dan y faner Olympaidd ac nid o dan faner eu gwlad.
‘Tynnu llinell’
Yn ôl Nicole Hoevertsz, arweinydd criw arbenigol sydd yn adrodd yn ôl ar ymddygiad athletwyr Rwsiaidd yn ystod y Gemau, fe ddylid “tynnu llinell” o dan y cyfan ac “edrych tua’r dyfodol”.
“Rhaid i ni ddirwyn y stori hon i ben ac edrych ymlaen. Fydd hi byth yn dychwelyd i’r un hen drefn ym myd chwaraeon nac yn Rwsia fyth eto.”
Cafodd Rwsia fel gwlad ei gwahardd rhag cystadlu yn dilyn helynt Sochi bedair blynedd yn ôl, pan gafwyd nifer sylweddol o athletwyr yn euog o gymryd cyffuriau a swyddogion yn euog o roi cyffuriau i’r athletwyr.
Roedd hawl gan athletwyr “glân” gystadlu o dan y faner Olympaidd yn dilyn cyfres o brofion cyn y Gemau.
Ond roedd Alexander Krushelnitsky (cyrlio) a Nadezhda Sergeeva (bobsledio) wedi methu profion. Roedd Krushelnitsky a’i wraig Anastasia Bryzgalova wedi ennill medal ond fe gafodd ei thynnu oddi arnyn nhw yn y pen draw.