Mae saith o bobol – pedwar milwr o India a thri o wrthryfelwyr – wedi cael eu lladd yn ystod gwrthdaro ar y ffin yn Kashmir.
Aeth dynion arfog i mewn i wersyll ger pentref Lethpora a saethu pobol yn farw, ac fe ymatebodd pobol yn y gwersyll drwy saethu’n ôl, gan anafu tri o filwyr.
Cafodd un milwr ei ladd a dau eu hanafu yn yr ymosodiad gwreiddiol ac fe gafodd dau filwr arall eu lladd wrth i’r brwydro gynyddu.
Bu farw milwr arall o drawiad ar y galon yn ddiweddarach wrth geisio ffoi o’r gwersyll, sydd hefyd yn safle hyfforddi milwyr.
Hanes y gwrthdaro
Mae mwy na 200 o wrthryfelwyr, 75 o blismyn a milwyr ac o leiaf 40 o bobol gyffredin wedi’u lladd yn ystod gwrthdaro yn Kashmir eleni – y flwyddyn waethaf ers 2010.
Mae India a Phacistan ill dau yn llywodraethu’r rhanbarth, ond mae gwrthdaro cyson tros ardal yr Himalaya, gyda gwrthryfelwyr yn mynnu annibyniaeth i’r rhanbarth neu iddi gael ei llywodraethu gan Bacistan, a hynny’n bennaf am fod trwch y boblogaeth yn Fwslimiaid.
Mae mwy na 70,000 o bobol wedi’u lladd mewn gwrthdaro yn Kashmir ers 1989.