Mae o leiaf 10 o bobl, gan gynnwys wyth o Gristnogion Coptig, wedi cael eu saethu’n farw y tu allan i eglwys yn yr Aifft.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i saethwyr ar feic modur danio y tu allan i eglwys Mar Mina yn y brifddinas Cairo.
Cafodd un o’r saethwyr ei saethu’n farw ac mae’r heddlu’n chwilio am un arall a wnaeth ffoi.
Mae lleiafrif Cristnogol yr Aifft wedi cael eu targedu gan wrthryfelwyr Islamaidd ac mae dros 100 wedi eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.