Rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddysgu hanes Cymru os am warchod ein hunaniaeth fel cenedl yw neges Blwyddyn Newydd arweinydd un o brif enwadau Cymru.

“Ein hanes yw cof y genedl. Mae’n esbonio o ble y daethom ni, pwy ydym ni heddiw, ac yn helpu ein cyfeirio at yfory,” meddai Glyn Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli aelodau 400 o gapeli ledled Cymru.

“Dylai Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Addysg Lleol wneud adduned Flwyddyn Newydd bod hanes Cymru, a hanes o safbwynt Cymreig, yn cael ei ddysgu’n ehangach yn ein hysgolion a’n colegau.

“Ar hyn o bryd, ofnaf fod hanes ein gwlad yn gyffredinol, a’i hanes crefyddol yn benodol, yn cael ei esgeuluso.

” Yn 2017, er enghraifft, buom yn dathlu 300 mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn – un o emynwyr mwyaf y byd, a roddodd lais i Ddiwygiad Mawr yr 18fed ganrif, yr hyn a luniodd cymeriad ein cenedl yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

“Mae’r tyrfaoedd rygbi yn dal i ganu ‘Bread of Heaven’ Williams ond bach iawn a ddysgir yn ein hysgolion amdano ef a’r effaith gafodd ar ein cenedl.

“Mae’r un peth yn wir am William Salesbury, a gyfieithodd y Testament Newydd i’r Gymraeg 450 mlynedd yn ôl i’r llynedd. Dyma’r athrylith wnaeth baratoi’r ffordd i William Morgan gyfieithu’r Beibl gyfan, a thrwy hynny sicrhau bod y Gymraeg yn goroesi hyd heddiw. Eto, oes yna sôn o gwbwl am Salesbury yn ein hysgolion?”

‘Y ffordd y daethom’

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ceisio cyfrannu at lenwi’r bwlch yma trwy baratoi cyfres o fideos o’r enw ‘Y Ffordd y Daethom’, sy’n adrodd hanes Anghydffurfiaeth Gristnogol yng Nghymru, mewn cyd-destun Cymreig ehangach ac Ewropeaidd.

Bob tri mis mae fideo newydd yn cael ei baratoi, sydd ar gael ar CDs ac ar-lein fel sail ar gyfer trafodaeth grŵp mewn capel, yn y cartref neu unrhyw le arall.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y ddolen hon:

annibynwyr.org/y-ffordd-3/blwyddyn-2