Mae taith llawer o ffoaduriaid ac ymfudwyr heddiw yn daith debyg i un Mair a Joseff, meddai’r Pab yn ei bregeth Nadolig.
Roedd ôl traed llawer o deuluoedd yn ôl eu traed nhw a phobol heddiw hefyd yn cyrraedd mannau heb le ar eu cyfer, meddai’r Pab Ffransis.
Ond, yn yr offeren yn y Fatican yn Rhufain ganol nos, fe ddywedodd mai’r Nadolig oedd yn troi grym ofn yn rym cariad.
‘Colli gwaed diniwed’
“Yn ôl traed Mair a Joseff, r’yn ni’n gweld llwybrau miliynau o bobol nad ydyn nhw’n dewis gadael ond, wrth gael eu gyrru o’u gwledydd, yn gadael eu hanwyliaid ar ôl,” meddai’r Pab.
“Mewn llawer achos, mae’r gadael yn llawn gobaith; ond i lawer, dim ond un new sydd i’r gadael yna: goroesi.
Ac roedd llawer o fudwyr yn gorfod osgoi “Herodiaid heddiw” sydd, wrth geisio cynyddu grym a chyfoeth yn gwbl barod “i dywallt gwaed y diniwed”.