Mae dau ddyn o’r Unol Daleithiau wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai am ddinoethi mewn teml Fwdhaidd.
Llwyddodd y pâr i ddenu sylw’r heddlu wedi iddyn nhw bostio llun o’u hunain – â’u penolau noeth – ar gyfryngau cymdeithasol.
Teml Wat Arun ger Bangok yw enw’r safle lle cafodd y llun ei dynnu.
Yn ôl awdurdodau mae’r twristiaid wedi gorfod talu dirwy o £110, a bellach maen nhw yn y ddalfa yn wynebu cyhuddiadau o anweddustra.
Mae mwyafrif poblogaeth Gwlad Thai yn Fwdhaidd, ac mae disgwyl i bobol guddio’u cnawd wrth ymweld â themlau.