Mae ymgyrchydd a gafodd ei garcharu gan Sbaen ym mis Hydref, wedi datgan y bydd yn sefyll yn etholiad Catalwnia y mis nesaf.

Ar hyn o bryd mae Jordi Sanchez – Arweinydd grŵp Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia (ANC) – dan glo ac yn disgwyl dyfarniad yn ei erbyn.

Mae’n wynebu cyhuddiad o achosi gwrthryfel, ac mi fydd ond yn medru sefyll yn yr etholiad os na chaiff ei farnu’n euog.

Mae Sbaen wedi galw am etholiad yng Nghatalwnia yn sgil refferendwm yno lle wnaeth mwyafrif bleidleisio o blaid annibyniaeth.

Er bod Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, ar ffo yng Ngwlad Belg, mae disgwyl iddo yntau sefyll yn yr etholiad.