Mae’r honiadau fod gan Lee Harvey Oswald gysylltiadau â’r CIA yn “gwbl ddi-sail”, yn ôl dogfennau sydd newydd gael eu cyhoeddi.
Yn ôl y dogfennau, cafodd ymchwiliad ei gynnal yn 1975, ond doedd dim tystiolaeth bryd hynny ychwaith i awgrymu cyswllt rhwng llofrudd yr Arlywydd John F. Kennedy a’r asiantaeth.
Does dim tystiolaeth, ychwaith, fod unrhyw asiantaeth wedi cyflogi Lee Harvey Oswald.
Mae’r dogfennau ymhlith 676 o gofnodion Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ymwneud â llofruddiaeth John F. Kennedy sydd wedi cael eu cyhoeddi’n ddiweddar.
Mae’r dogfennau’n cynnwys cofnodion y CIA, adrannau Cyfiawnder ac Amddiffyn yr Unol Daleithiau a phwyllgorau’r llywodraeth.
Golygu dogfennau
Ond mae rhai wedi mynegi pryder bod y dogfennau wedi cael eu golygu cyn cael eu cyhoeddi.
Mae’r hanesydd Larry Sabato o Brifysgol Virginia wedi troi at wefan Twitter i dynnu sylw at ddogfen 144 o dudalennau oedd wedi cael ei haddasu’n helaeth.
Roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi gorchymyn fod rhaid cyhoeddi’r holl ddogfennau mewn perthynas â llofruddiaeth yr Arlywydd John F. Kennedy.
Ac mae e wedi gorchymyn asiantaethau i edrych eto ar ddogfennau sydd wedi cael eu golygu.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, meddai, y caiff yr awdurdodau gadw dogfennau’n ôl heb eu cyhoeddi.
Asiantaethau gwledydd eraill
Mae’r dogfennau sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma’n awgrymu cyswllt rhwng Lee Harvey Oswald ag asiantaethau nifer o wledydd, gan gynnwys Ciwba a Mecsico.
Ond does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod yr un o’r gwledydd wedi ei gyflogi i ladd John F. Kennedy.