Mae arweinydd Catalwnia wedi dweud bod carcharu naw aelod ei lywodraeth yn “gamgymeriad difrifol.”

Mewn araith a gafodd ei darlledu nos Iau ar sianel deledu gyhoeddus Catalwnia, TV3, galwodd Carles Puigdemont ar bobol Catalwnia i brotestio yn erbyn awdurdodau Sbaen “heb drais, yn heddychlon a gyda pharchu tuag at farn pawb.”

Mae’r arweinydd a sawl aelod arall o’i Gabinet ym Mrwsel tra bod barnwyr Sbaen yn ceisio eu herlyn am wthio refferendwm “anghyfreithlon” ar annibyniaeth, yn eu llygaid nhw.

Mae’r erlynydd yn Sbaen wedi gofyn i farnwr y Llys Cenedlaethol am gael cyhoeddi gwarant ryngwladol i’w harestio.

‘Gwarthus’

“Mae ffyrnigrwydd Sbaen wrth ymosod ar genedl yn Ewrop yn warthus ac yn ein bygwth ni gyd,” meddai Carles Puigdemont.

Ychwanegodd nad yw annibyniaeth Catalwnia bellach yn “fater mewnol” yn Sbaen.

Mae miloedd o bobol Catalwnia wedi mynd at y strydoedd i brotestio yn erbyn carcharu’r naw gweinidog.