Bydd aelodau o Lywodraeth Catalwnia yn ymddangos gerbron llysoedd Madrid heddiw am ddweud bod y wlad yn annibynnol.
Daw hyn wedi i brif erlynydd Sbaen ddweud ei fod am weld yr Aelodau Seneddol yn wynebu cyhuddiadau o wrthryfela.
Er bod Madrid wedi gorchymyn bod ugain o wleidyddion yn ymddangos yn y llysoedd, bydd un ffigwr nodedig yn absennol sef Arlywydd Catalwnia.
Mae Carles Puigdemont ar ffo yng Ngwlad Belg, gyda’r posibilrwydd y bydd awdurdodau Sbaenaidd yn ceisio ei arestio a’i estraddodi.
Mae 13 o’r gwleidyddion yn y llysoedd yn aelodau o gabinet Carles Puigdemont, a chwech arall yn aelodau o fwrdd seneddol.