Mae cyrch awyr yng ngogledd Yemen wedi lladd o leiaf 26 o bobol, a’r rheiny’n cynnwys plant. Y gred ydi mai Sawdi Arabia a’i chynghreiriaid oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae asiantaeth feddygol wedi cadarnhau i naw o bobol eraill gael eu hanafu yn yr ymosodiad ar westy bychan mewn marchnad yn nhalaith Sa’da, ar y ffin â Sawdi Arabia.

Mae Saada yn gadarnle i’r gwrthryfelwyr Shiiaidd yr Houthis sy’n cael eu cefnogi gan Iran.

Mae grwpiau hawliau dynol wedi cyhuddo’r cynghreiriaid cyn hyn o ymosod ar bobol gyffredin, ar farchnadoedd ac ysbytai ers dechrau’r ymgyrch o’r awyr ym mis Mawrth 2015.